Dug a Duges Caergrawnt
Mae disgwyl i lys yn Ffrainc gyhoeddi heddiw a fydd yn rhoi gorchymyn i atal rhagor o luniau fronnoeth o Dduges Caergrawnt rhag cael eu cyhoeddi.

Fe fydd y Tribiwnlys de Grande Instance yn Nanterre, Paris yn dyfarnu a fydd yn ceisio atal y cylchgrawn Closer rhag dangos rhagor o luniau o Dduges Caergrawnt yn torheulo tra roedd ar wyliau yn Ffrainc.

Mae’r achos sifil yn galw am iawndal ôl 5,000 ewro (£4,034) a gwaharddiad ar y cylchgrawn rhag ail-gyhoeddi’r lluniau. Mae’r cylchgrawn yn Ffrainc yn cael ei redeg gan gwmni gwahanol i’r fersiwn o Closer ym Mhrydain.