Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog wedi dweud y bydd yn ystyried gofyn i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu os ddyle’r swyddogion fu’n ymwneud â thrasiedi Hillsborough fod yn destun ymchwiliad dynladdiad.

Dywedodd David Crompton fod yr heddlu yn ystyried cyfeirio nifer o faterion sy’n codi o adroddiad Panel Annibynnol Hillsborough, gan gynnwys dynladdiad corfforaethol, dynladdiad a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Hefyd mi ddywedodd y Prif Gwnstabl bod angen cwestiynu pam bod adroddiad cynharach yr Arglwydd Stuart-Smith, wnaeth edrych ar y mater o newid datganiadau’r heddlu, wedi ei dderbyn.

Mae Heddlu De Swydd Efrog yn parhau i gyflogi 195 o blismyn oedd ar ddyletswydd yn Hillsborough yn 1989.