Does yna ddim digon o waith i fodelau glamour ar hyn o bryd, a hynny am bod gormod ohonyn nhw’n ceisio ennill eu tamaid yn y diwydiant.

Dyna brofiad un dyn o’r Cymoedd sy’n gweithio yn y maes ers blynyddoedd.

Mae Ray Beaumont wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod  modelau yn cael llai o dâl am ddangos mwy o gnawd, oherwydd bod cymaint ohonyn nhw ar y farchnad.

“O’r blaen byddai model yn cael tua £25 yr awr ar gyfer y lluniau ffasiwn a dillad. Os oedden nhw yn eu bicini neu dillad isaf tua £25 i £30,” eglura’r ffotograffydd o’r Rhondda.

“Nawr, yn bendant, fe fydd yna ferch ar wefanau sydd yn fodlon dangos popeth i chi am £25 yr awr. Fydd hi yn edrych yn ok – nid yn fodel dosbarth A – ond yn ddigon del. Nawr mae lot o ffotograffwyr yn mynd amdani hi, yn hytrach na thalu £50, £60 am rhywun sydd efallai ychydig yn neisach a gyda ffigwr ychydig yn well.”

Y cyfweliad llawn yn rhifyn yr wythnos o Golwg