Ed Miliband
Fe fydd cynhadledd y Blaid Lafur yng Nghymru heddiw yn clywed bod dau bolisi gwahanol yn Lloegr yn arwydd o fethiant y Llywodraeth i ddeall y bobol.

Fe fydd arweinydd y blaid, Ed Miliband, yn dod i Landudno i gondemnio cynlluniau Llywodraeth y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol i agor y Gwasanaeth Iechyd i’r sector preifat ac i werth u coedwigoedd.

Fe fydd hefyd yn dweud bod Llafur yn gallu amddiffyn Cymru rhag gwaetha’r toriadau cyhoeddus.

Fe fydd yn cyhuddo Llywodraeth David Cameron o dynnu’r ‘Cenedlaethol’ o enw’r Gwasanaeth Iechyd – “yr ‘N’ o’r ‘NHS’.”

Mae Llafur yn gwrthwynebu’r bwriad i roi 80% o wariant y gwasanaeth yn nwylo meddygon teulu a fydd wedyn yn gallu prynu gwasanaethau gan wahanol ddarparwyr, gan gynnwys cwmnïau preifat.

‘Allan o gysylltiad’

Roedd y penderfyniad yr wythnos hon i newid meddwl a pheidio â phreifateiddio’r coedwigoedd yn arwydd o’r un peth, meddai – bod y Llywodraeth allan o gysylltiad â’r bobol.

Wrth ymateb i’r sylwadau, mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Andrew Lansley, wedi gofyn a yw Llafur hefyd yn cefnogi’r ffaith bod £10 biliwn arall yn mynd at y Gwasanaeth Iechyd – fel arall, meddai, doedd sylwadau Ed Miliband yn ddim ond chwarae gwleidyddol.

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hefyd yn annerch y gynhadledd.