Mae cwmni G4S wedi cyfaddef heddiw y bydd wedi gwneud colled o £50 miliwn o ganlyniad i’r helynt ynglŷn â’u cytundeb i ddarparu swyddogion diogelwch ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Mae G4S yn cynnal adolygiad mewnol i’w fethiant i ddarparu 10,400 o swyddogion diogelwch ar gyfer y Gemau yn Llundain eleni, gan olygu bod y Llywodraeth wedi gorfod trefnu bod milwyr yn gwneud y gwaith.

Dywedodd y grŵp eu bod wedi cyflenwi 83% o’r shifftiau fel rhan o’u cytundeb a’u bod yn hyderus y bydd ganddyn nhw ddigon o staff ar gyfer y Gemau Paralympaidd sy’n cychwyn yfory.

Roedd eu canlyniadau ar gyfer chwe mis cynta’r flwyddyn yn dangos gostyngiad sylweddol mewn elw cyn treth i £61 miliwn o’i gymharu â £151 miliwn yn y flwyddyn flaenorol.

Roedd ’na bryder y byddai’r helynt yn amharu ar obeithion y cwmni i geisio am gytundebau gyda’r Llywodraeth yn y dyfodol.

Fe gyfaddefodd prif weithredwr y cwmni Nick Buckles bod G4S wedi rhoi’r gorau i gais am gytundeb gwerth £20 miliwn y flwyddyn gyda’r Adran Waith a Phensiynau o ganlyniad i’r helynt.

Ond mae’n mynnu y bydd y cwmni yn parhau i chwarae “rôl sylweddol” yn y sector cyhoeddus.