Mae dau o bob tri charchar wedi cael eu gorboblogi, ac mae’r sefyllfa yng ngharchar Abertawe ymhlith y gwaethaf o blith carchardai Cymru a Lloegr.

Dyna ddywed yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, sy’n rhybuddio fod gorlenwi carchardai yn ei gwneud hi’n fwy anodd i leihau nifer y carcharorion sy’n ail-droseddu ar ôl cael eu rhyddhau.

Cafodd carchar Abertawe ei adeiladu ar gyfer 240 o ddynion, ond mae’n dal 436. Dyma yw’r carchar mwyaf gorlawn yng Nghymru a’r trydydd yn ystadegau Cymru a Lloegr.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai mae 7,294 yn fwy o bobol yn y carchar nag y mae’r system wedi ei chynllunio i’w dal, ac mae carchardai preifat yn fwy gorlawn na rhai’r sector cyhoeddus.

Ail-droseddu

Mae 47% o oedolion yn ail-droseddu o fewn blwyddyn ar ôl gadael carchar, a 57% o’r rheiny oedd wedi treulio llai na blwyddyn yn y carchar, medd yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai.

Mae 70% o blant, 10-17 oed, yn ail-droseddu o fewn blwyddyn i gael eu rhyddhau o ddalfa.

Yn ôl Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, Juliet Lyon, nid adeiladu yw’r unig ateb i broblem gorboblogi.

“Mae’n bosibl cwtogi poblogaeth carchardai drwy leihau’r twf mewn dedfrydau, rhoi stop ar y nifer sy’n cael eu cadw yn y ddalfa yn ddiangen wrth aros eu prawf, delio gyda dibyniaeth ar gyffuriau a buddsoddi mewn cosbau cymunedol effeithiol.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai fod rhai carchardai yn cadw mwy o bobol nag y cafon nhw eu cynllunio ar eu cyfer, ond eu bod nhw’n darparu llety o safon “derbyniol.”

“Rydym ni’n anelu at leihau gorboblogi a lleihau’r gost o gynnal yr ystâd o garchardai,” meddai.

Mae 86,801 o bobol mewn carchar ar hyn o bryd, o’i gymharu gyda 70,860 yn yr un cyfnod yn 2002.

.