Tudalen flaen y Sun
Papur newydd The Sun yw’r cyntaf o Brydain i benderfynu cyhoeddi lluniau noethlymun o’r Tywysog Harry, gan ddadlau bod gwneud hynny’n “hollbwysig” i ryddid y wasg.

Mae’r lluniau sy’n dangos y dyn 27 oed yn sefyll yn borcyn â merch anhysbys yn Las Vegas wedi denu sylw ledled y byd ond doedd yr un papur newydd ym Mhrydain wedi eu cyhoeddi.

Roedd y Teulu Brenhinol wedi galw ar y wasg i barchu preifatrwydd Harry, ond roedd y lluniau i’w gweld ar-lein.

Dywedodd The Sun eu bod nhw wedi cyhoeddi’r lluniau fel bod modd i’r miliynau o bobol sy’n cael eu newyddion drwy gyfrwng print “gymryd rhan yn y drafodaeth fyd-eang”.

“Mae gan y lluniau oblygiadau ar gyfer delwedd y Tywysog, sy’n cynrychioli Prydain ledled y byd,” meddai’r papur.

“Yn fwy na hynny, rydyn ni’n teimlo nad ydi Harry wedi parchu ei breifatrwydd ei hun.

“Mae’n wirion bost nad oes modd i’r Sun gyhoeddi straeon y mae miliynau wedi eu gweld ar y we yn barod.”