Mae plismyn sy’n chwilio am fachgen 4 oed, a ddisgynnodd i’r môr yn Burnham-on-Sea nos Sul, wedi dod o hyd i gorff plentyn.

Roedd Dylan Cecil ar wyliau gyda’i deulu pan syrthiodd oddi ar lithrfa i’r dŵr. Roedd ei rieni wedi ceisio’n ofer i’w achub.

Cafwyd hyd i gorff am 12.30pm heddiw ger clwb hwylio yn Burnham-on-Sea ger Gwlad yr Haf, meddai’r heddlu.

Mae rhieni Dylan, o Kettering yn Sir Northampton, wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Dyw’r corff heb gael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.