Mae dau o bobl eraill wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â gwrthdrawiad yn Leeds lle cafodd dau o blant eu taro gan gar oedd wedi methu ag aros ar ôl y ddamwain.
Mae’r bachgen 2 oed a’i chwaer 10 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae dyn 39 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o yrru’n beryglus a dyn 26 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr. Mae dyn 36 oed hefyd yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio neithiwr ar amheuaeth o yrru’n beryglus, o fethu ag aros ar ôl damwain, ac o fethu â rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad.
Dywed yr heddlu bod y tri yn dod o ardal Leeds.
Cafodd Raham Saleem a’i chwaer Sabam eu taro gan gar yn Ffordd Brudenell, Hyde Park, Leeds, brynhawn dydd Sadwrn.
Roedd yr heddlu wedi rhyddhau llun o’r Vauxhall Astra lliw arian y credir oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad. Maen nhw hefyd yn apelio ar ddynes, oedd o bosib wedi gweld y ddamwain, i gysylltu â nhw.