George Osborne
Fe fu na ergyd i gynlluniau’r Canghellor George Osborne i fenthyg llai o arian heddiw wrth i ffigurau newydd ddangos bod ’na gynnydd wedi bod mewn benthyciadau yn ystod mis Gorffennaf.
Roedd benthyciadau yn y sector cyhoeddus yn £600 miliwn ym mis Gorffennaf, o’i gymharu â £2.8 biliwn oedd yn weddill yn ystod yr un mis y llynedd.
Mae Gorffennaf fel arfer yn gyfnod da o ran treth incwm i’r Trysorlys, ond eleni fe fu gostyngiad o 0.8% o ganlyniad i ostyngiad mewn treth gorfforaethol, tra bod gwariant y Llywodraeth wedi cynyddu 5.1%.
Mae benthyciadau wedi cynyddu eleni i £44.9 biliwn – £9.3 biliwn yn uwch na’r llynedd.