Daeth 20,000 o bobl ynghyd yn Sheffield neithiwr i roi croeso cynnes i’r athletwraig a enillodd aur yn y Gemau Olympaidd, Jessica Ennis, wrth iddi ddychwelyd adref am y tro cyntaf ers y Gemau.
“Fedra i ddim credu faint o bobl sydd yma,” meddai Jessica Ennis, sy’n 26 oed.
“Mae’n ddinas hyfryd gydag adnoddau anhygoel, a dyma fy nghartref a’r lle dwi’n ei garu. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch chi sydd yma. Petawn i’n medru diolch i bob un ohonoch chi’n unigol, mi faswn i. Mae ʼna gymaint ohonoch chi.
“Mi rydach chi wedi bod yn anhygoel – nid yn unig dros yr wythnosau diwethaf yma, ond dros y blynyddoedd diwethaf. Rydach chi wedi bod yna i’m cefnogi i bob amser.”
Roedd nifer yn y dorf yn gwisgo dilledyn lliw aur ac roedd rhai coed wedi cael eu peintio’n aur i nodi camp Jessica wnaeth ennill cystadleuaeth yr heptathlon yn y Gemau.