Joe Allen
Yn dilyn ymadawiad Joe Allen, mae un o chwaraewyr newydd Abertawe, Jonathan de Guzman wedi dweud nad yw’n teimlo’r pwysau i gymryd lle’r Cymro.
Fe wnaeth Joe Allen symud i Lerpwl am £15 miliwn wythnos diwethaf.
“Cafodd Joe dymor da’r llynedd a dw i yma i lenwi ei ‘sgidiau, ond dydw i ddim yn teimlo unrhyw bwysau,” meddai de Guzman.
Mae disgwyl i’r chwaraewr ganol cae wneud ei ymddangosiad cyntaf i Abertawe pan fydd yr Elyrch yn teithio i Lundain i herio QPR yfory.
“Dw i’n gwybod beth yw fy ngallu. Dw i’n greadigol ac yn gwneud goliau,” meddai. “Dw i’n hapus iawn i gael bod yma.”
Michael Laudrup
Mae de Guzman wedi cydweithio gyda Michael Laudrup, rheolwr Abertawe, yn y gorffennol yn Mallorca.
Yn wreiddiol o Ganada, mae de Guzman bellach yn gymwys i gynrychioli’r Iseldiroedd ar ôl cyfnod yn byw yno.
Mae wedi ennill pedwar cap dros dîm dan 21 yr Iseldiroedd, a chynrychiolodd ei wlad yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.