Justin Tipuric fydd y capten yfory
Bydd y Gweilch yn gobeithio am well perfformiad gartref yn erbyn Caerfaddon b’nawn yfory, wedi iddyn nhw golli allan yn Ffrainc ddydd Gwener diwetha’.

Er iddyn nhw sgorio 25 o bwyntiau, mi ildiodd y rhanbarth o Gymru 49 pwynt yn erbyn Clermont Auvergne.

Mae’r prif hyfforddwr yn addo gwell tîm yn erbyn Caerfaddon, gyda sêr megis Ian Gough, Richard Hibbard a Justin Tipuric yn y tîm.

“Mae yna nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn dychwelyd i’r garfan, rhai yn cychwyn a rhai ar y fainc, ac mi fyddwn ni’n plethu pawb yn wead tynn cyn i’r tymor gychwyn,” meddai Steve Tandy.