Mae Abertawe wedi talu £1miliwn i Arsenal am Kyle Bartley.

Meddai’r amddiffynnwr canol ar ei gyfrif twitter: Hapus iawn. Roedd penderfynu gadael Arsenal yn tu hwnt o anodd, ond teimlown mai dyma’r adeg iawn i fynd.

“Cynigiodd Abertawe gyfle i mi…ac nawr rwy’n awchu i fynd amdani gydag Abertawe.”

Ymunodd Bartley gyda’r Gunners o Bolton Wanderers yn 2007, gan ennill Cwpan FA Lloegr i’r ifanc yn 2009, a chwarae i dîm cyntaf Arsenal yn yr un flwyddyn yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop yn erbyn Olympiakos.

Ers hynny bu ar fenthyg yn Sheffield United, a’r tymor diwethaf roedd ar fenthyg yn Glasgow Rangers.

Jinx dechrau’r tymor

Mae’r Elyrch wedi colli eu gornest gynta’ o’r tymor dros y chwe blynedd diwetha’, a’r gobaith yw rhoi stop ar y record yna yfory.

Bydd Abertawe yn teithio i Lundain i herio Queens Park Rangers sy’ dan reolaeth y Cymro Mark Hughes.