Carwyn Jones - 'cyfle i ddatblygu cysylltiadau'
Mae timau Paralympaidd sydd wedi dewis ymarfer mewn canolfannau yng Nghymru yn cael eu croesawu i’r wlad mewn digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan y Prif Weinidog heno.
Dywedodd Carwyn Jones fod y Gêmau Paralympaidd yn ddigwyddiad “hollol ysbrydoledig” a bod y timau wedi eu denu i Gymru gan y “cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf a’r wybodaeth a’r arbenigedd sy’n briodol i athletwyr Paralympaidd o’r safon uchaf”.
“Mae presenoldeb y timau hyn hefyd yn gyfle i ni ddatblygu cysylltiadau chwaraeon, addysgol a diwylliannol rhwng ein gwledydd,” ychwanegodd Carwyn Jones.
Ymhlith y timau cenedlaethol sy’n dod i Gymru i baratoi at y Gêmau, mae Awstralia, Mecsico, China ac India, a thimau seiclo Prydain a’r Unol Daleithiau.
Mae’r Gêmau Paralympaidd yn dechrau 29 Awst ac yn para tan 9 Medi.