Gwaith meddwl - Chris Coleman (PA)
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cyfaddef nad oes gobaith gan Gymru gyrraedd Cwpan y Byd os na chwaraean nhw’n well na neithiwr.
Mae Coleman yn dal i ddisgwyl am ei fuddugoliaeth gyntaf yn rheolwr Cymru a dywedodd nad oedd y golled 0-2 i Bosnia-Herzegovina neithiwr yn argoeli’n dda ar gyfer ymgyrch Cymru sy’n dechrau 7 Medi.
“Roedd e’n berfformiad siomedig. Ry’n ni’n well tîm na hynna, ry’n ni’n gwybod hynny,” meddia. “Os nad ’yn ni’n chwarae’n well na hynna, awn ni ddim i unman.”
‘Dim esgusodion’ meddai Allen
Dywedodd chwaraewr canol-cae Cymru Joe Allen fod y canlyniad wedi bod yn siomedig, ond bod y cyfle i chwarae gyda’i gilydd wedi bod yn fanteisiol.
“Mae Bosnia’n dîm da ond d’yn ni ddim eisiau gwneud esgusodion achos mae gyda ni chwaraewyr da ein hunain,” meddai Allen ar BBC Radio Cymru. “Mae’r paratoadau wedi ‘bennu nawr, rhaid i ni ddechrau’n dda pan ddaw’r gêm gyntaf fis nesa.”
Allen, chwaraewr newydd Lerpwl, a ddaeth agosa’ at sgorio i Gymru wrth daro’r trawst yn yr hanner cynta’.
Gwrthwynebwyr Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 7 Medi yw Gwlad Belg, a gurodd yr Iseldiroedd neithiwr 4-2 o flaen 50,000 o bobol yn stadiwm y Brenin Baudouin ym Mrwsel.