Ian Huntley
Mae tref Soham yn paratoi i nodi deng mlynedd ers i gyrff Holly Wells a Jessica Chapman gael eu darganfod.
Roedd y darganfyddiad yn ddiwedd ar bythefnos o chwilio am y ddwy ferch ysgol ar ôl iddyn nhw ddiflannu yn ystod barbeciw yn Soham, swydd Gaergrawnt, yn 2002.
Mae’r gofalwr ysgol Ian Huntley yn y carchar o hyd ar ôl cael dwy ddedfryd oes am lofruddio’r ddwy ferch.
Cafodd ei gariad ar y pryd, Maxine Carr, ddedfryd o 21 mis yn y carchar am wyrdroi cwrs cyfiawnder a mae hi bellach yn byw dan eidentiti newydd.
Pan gafodd y cyrff eu darganfod tyrrodd nifer o bobol yr ardal i eglwys St Andrew’s yn Soham, ond dywedodd offeiriad y plwyf, Tim Alban Jones, na fydd gwasanaeth tebyg yno’r wythnos yma.
“Mae’n adeg i’r teuluoedd” meddai.
Mae criminolegydd ym Mhrifysgol Anglia Ruskin wedi dweud y bydd pobol yn parhau i gofio am y llofruddiaethau tra byddan nhw byw o achos “natur eithafol y drosedd a chwilfrydedd pobol am gymeriad Huntley.”
“Yn y gymuned ehangach bydd y galar yn parhau,” meddai Colleen Moore.
“Byddai’r rheiny oedd ddim yn adnabod y teuluoedd yn dal i uniaethu gyda’r hyn roedden nhw’n ei ddioddef ac yn ofni y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd eto.”