Tia Sharp
Mae partner nain y ferch ysgol, Tia Sharp, sydd wedi diflannu o’i chartref yn cael ei holi fel llygad-dyst.

Fe ddiflannodd Tia bnawn dydd Gwener ar ôl dweud wrth ei pherthnasau ei bod yn mynd i siopa yng nghanolfan Whitgift yn Croydon.

Mae’n debyg ei bod wedi cael ei gweld am y tro olaf yn y tŷ lle mae ei nain, Christine Sharp, 46, yn byw gyda’i phartner Stuart Hazell, 37, yn New Addington, de ddwyrain Llundain.

Credir mai Stuart Hazell oedd un o’r rhai olaf i weld Tia. Cafodd ei holi gan yr heddlu am fwy na dwy awr fel llygad dyst ddoe.

Mae mwy na 80 o blismyn wedi ymuno yn y chwilio am y ferch 12 oed, tra bod aelodau o’r gymuned hefyd yn chwilio’r ardal.