Jade Jones Llun: Gwefan Birtish Taekwondo
Bydd Jade Jones o Sir y Fflint yn dechrau ei hymgyrch Olympaidd heddiw yng nghystadleuaeth y taekwondo.

Enillodd y fedal arian ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd.

Os bydd y ferch 19 oed yn llwyddiannus yn y rowndiau cyntaf, bydd y rowndiau terfynol hefyd yn cael eu cynnal yn hwyrach heddiw.

Frankie Jones, 21, yw cynrychiolydd Cymru yn y gymnasteg rythmig heddiw. Fe enillodd y fedal arian yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2010.

Bydd Dai Greene yn gobeithio rhoi siom ei ymgyrch personol yn y Gemau i’r neilltu wrth iddo redeg yn y ras gyfnewid 4x400m y bore ma. Mae Rhys Williams hefyd wedi ei gynnwys yn y tîm.