Hannah Mills a Saskia Clark
Mae’r hwylwraig o Ddinas Powys, Hannah Mills, wedi sicrhau y bydd hi’n ennill medal yn y Gemau Olympaidd.
Daeth y Gymraes, ynghyd â’i phartner Saskia Clark, yn ail yn ras olaf y cychod 470 gan orffen y gyfres o ddeg ras yn gyfartal gyda Seland Newydd ar frig y tabl.
Yn dilyn ras olaf drychinebus gan y pâr o Seland Newydd, lle gorffennodd y ddwy’r ras yn y deunawfed safle, llamodd y Prydeinwyr i fod yn gyfartal ar y brig ar ôl gorffen yn wythfed ac yn ail yn eu dwy ras olaf.
Bydd lliw medal Hannah Mills, 24, yn dibynnu ar ganlyniad y ras derfynol ddydd Gwener.
Cafodd y ddwy o Brydain eu coroni’n bencampwyr y byd yn Barcelona ym mis Mai eleni.