Craig Bellamy
Mae clwb pêl-droed Lerpwl wedi cadarnhau eu bod mewn trafodaethau â Chaerdydd ynglŷn â gwerthu Craig Bellamy yn ôl i’w gyn-glwb.
Dywedodd rheolwr Lerpwl, Brendan Rodgers, ei fod yn deall fod yr ymosodwr eisiau gadael y clwb am resymau personol.
Er bod Brendan Rodgers yn gyndyn i adael Craig Bellamy i fynd, mae’n debyg fod cyn-gapten Cymru eisiau symud i fyw yn agosach at ei deulu yn y brifddinas.
Craig Bellamy, 33, oedd capten Tîm GB nos Sadwrn wrth iddyn nhw fynd allan o’r Gemau Olympaidd ar ôl colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn De Korea.
Cafodd gyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd yn nhymor 2010/11 gan sgorio 11 gôl yn y Bencampwriaeth, cyn dychwelyd i Lerpwl haf diwethaf.