Mae gwerthiant Greggs wedi gostwng 3.5%,  a hynny er gwaetha llwyddiant y cwmni yn brwydro yn erbyn y “dreth bastai” amhoblogaidd.

Roedd y Llywodraeth wedi gwneud tro pedol ynglŷn â’i chynlluniau i godi 20% o Dreth ar Werth ar fyrbrydau poeth fel pasteiod a pheis, yn dilyn deiseb gan Greggs oedd wedi denu cefnogaeth 300,000 o bobl.

Ond heddiw fe gyhoeddodd Greggs bod gwerthiant wedi gostwng 3.5% yn ail chwarter 2012.

Dywedodd y grŵp, sydd â 1,600 o siopau yn y DU, bod y gostyngiad o ganlyniad i’r tywydd wrth i siopwyr gadw draw o’r stryd fawr.

Roedd elw’r cwmni wedi gostwng 4.6% i £16.5 miliwn yn y 26 wythnos hyd at 30 Mehefin er gwaetha ymdrechion y cwmni i arbed costau.

Yn y cyfamser, mae’r grŵp wedi cyhoeddi cynlluniau i agor 28 o’i siopau mewn gorsafoedd petrol Moto, gan greu 500 o swyddi.