David Cameron
Bydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn ymweld â Chymru heddiw fel rhan o daith sy’n mynd o amgylch cyfleusterau chwaraeon y Deyrnas Unedig.

Gilwern ger Y Fenni, a’r adnoddau chwaraeon sydd ar gael i bobol ifanc yno, fydd pen taith David Cameron yng Nghymru heddiw.

Bu’r Prif Weinidog eisoes yn gweld rhannau o’r Alban a Gogledd Iwerddon o fewn yr wythnos ddiwethaf.

Yn ystod ei gyfnod yn Yr Alban, bu’n gefnogol i ymgyrch Glasgow i gynnal y Gemau Olympaidd Ieuenctid yn 2018.

“Er na fydd y Gemau Olympaidd Ieuenctid yn troi pob plentyn i mewn i Chris Hoy neu Hannah Miley y dyfodol, rwy’n argyhoeddedig petai ni’n gallu dod a’r Gemau yma i Brydain, gallwn helpu hyd yn oed mwy o bobol ifanc i ddatblygu arferion chwaraeon am weddill eu bywydau,” meddai David Cameron.