Mae rhwyfwr Olympaidd wedi cael ei arestio gan yr heddlu ar ôl i ffenest siop gael ei difrodi.

Ar ôl cael ei gludo i orsaf yr heddlu llewygodd Joshua Booth, 21, a tharo ei ben, a chafodd ei gludo i’r ysbyty er mwyn i feddygon gael cipolwg arno.

Roedd Joshua Booth yn aelod o wythawd Awstralia a ddaeth yn chweched yn y rownd derfynol ddoe. Mae’n debyg ei fod wedi bod yn yfed.

Dywedodd rheolwr carfan Olympaidd Awstralia, Nick Green, fod y digwyddiad yn un “anffodus.”

“Mae un o’n rhwyfwyr wedi cael ei hun mewn bach o drafferth,” meddai.

“Rydym ni’n deall fod alcohol yn rhan o’r peth ond dwi ddim yn gwybod y manylion i gyd. Bydd ymchwiliad yr heddlu yn cyflwyno hynna i gyd.”

Badminton

Mae hyfforddwr badminton China wedi ymddieuro ar ôl i wyth chwaraewraig badminton gael eu gwahardd am geisio colli’n fwriadol er mwyn cael llwybr haws i’r ffeinal.

Dywedodd Li Yongbo fod y ddwy ferch o China “heb arddangos traddodiad ac ysbryd benderfynol y tim cenedlaethol.”

“Fi sydd ar fai,” meddai.

Mae un ohonyn nhw, Yu Yang, wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o’r gamp yn dilyn yr helynt.

Cafodd pedair merch o Dde Corea a dwy o Indonesia eu gwahardd yn ogystal â’r ddwy o China.