George Osborne
Mae un o brif asiantaethau credyd y byd wedi cadarnhau na fyddwn nhw’n israddio statws credyd AAA’r Deyrnas Unedig am y tro.

Mae’r cyhoeddiad yn hwb i ymdrechion Llywodraeth San Steffan i dorri’r diffyg ariannol, wedi iddo ddod i’r amlwg bod yr economi wedi crebachu 0.7 y cant yn ail chwarter 2012.

Mynnodd Standard & Poor’s y bydd yr economi yn dod ato’i hun dros y misoedd nesaf ac y byddai Llywodraeth San Steffan yn gallu torri’r diffyg ariannol.

“Er gwaethaf y gwendid diweddar, rydyn ni’n credu y bydd economi’r Deyrnas Unedig yn dechrau dod ato’i hun yn ail hanner 2012 ac yn cryfhau yn araf bach o hynny ymlaen,” medden nhw.

“Rydyn ni hefyd yn disgwyl y bydd polisi economaidd y llywodraeth yn parhau i bwysleisio cau’r diffyg ariannol.”

Ond dywedodd S&P bod statws credyd y wlad yn dibynnu ar y llywodraeth yn gwireddu ei haddewidion, a hefyd bod yr economi yn tyfu yn ail hanner y flwyddyn.

“Mae’n bosib y gwnawn i ostwng y statws credyd, yn enwedig os yw cyflymdra’r toriadau yn arafach na’r disgwyl,” medden nhw.

Mae rhai Ceidwadwyr wedi galw am ddisodli George Osborne yn Ganghellor yn dilyn y cyhoeddiad bod yr economi wedi crebachu am y trydydd chwarter yn olynol.

Ond mynnodd y Prif Weinidog, David Cameron, y bydd yn aros er mwyn sicrhau ei fod yn “cwblhau’r dasg” o ffrwyno dyled y wlad.