Mae streic gan staff y Swyddfa Gartref a oedd yn peryglu trfniadau’r Gemau Olympaidd wedi ei ohirio ar ôl i drafodaethau symud yn ei blaen.

Roedd disgwyl i aelodau o undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol fynd ar streic 24-awr fory, ar drothwy seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd, yn dilyn anghydfod ynglŷn â swyddi a chyflogau.

Cyhoeddodd y Llywodraeth y bydden nhw’n dwyn achos cyfreithiol yn eu herbyn pe byddai’r streic yn mynd yn ei blaen.

Dywedodd yr undeb fod yr 800 o swyddi newydd sy’n cael eu creu yn Asiantaeth Ffin y Deyrnas Unedig a’r 300 yn y swyddfeydd pasbort  yn ddigon o reswm i ohirio’r streic.

Yn ôl arweinydd yr undeb, Mark Serwotka, mae’r penderfyniad i greu’r holl swyddi newydd yn profi fod y Llywodraeth wedi gwneud camgymeriadau enfawr yn cael gwared â miloedd o swyddi yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd yr undeb fod yr aelodau wedi derbyn ymosodiadau “gwarthus” gan weinidogion y Llywodraeth ers cyhoeddi’r bwriad i streicio wythnos diwethaf.