Mae llai o fabanod  yn cael eu geni i ferched yn eu harddegau yng Nghymru er bod mwy o enedigaethau yng Nghymru nawr na 10 mlynedd yn ôl.

Yn ôl y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant roedd 6.9% o enedigaethau yng Nghymru y llynedd i famau o dan 20 oed, o gymharu gyda 10.3% yn 2001.

Mae cwymp mawr wedi bod yng Ngwynedd, ble roedd 114 o enedigaethau i famau yn eu harddegau yn 2005 ond dim ond 56 y llynedd.

Yng Nghymru benbaladr roedd 3116 o enedigaethau i ferched yn eu harddegau yn 2006, ond yn y flwyddyn 2011 disgynnodd y nifer i 2446.

Mwy o famau hŷn

Daw’r cwymp er bod mwy o enedigaethau yng Nghymru – 35,682 o gymharu gyda 30,690 yn 2001.

Mae twf wedi bod yn y nifer o famau hŷn – yn 2004 roedd 871 o enedigaethau i famau dros 40 oed, a chododd y nifer i 1104 yn 2011.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant yn cynnwys cofnodion dienw o’r holl blant sydd wedi’u geni, sy’n byw neu sy’n cael triniaeth yng Nghymru ac a gafodd eu geni ar ôl 1987.