Mae un o gefnogwyr yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi galw am ddiswyddo’r Canghellor, George Osborne yn sgil ffigyrau GDP trychinebus.
Dywedodd yr Arglwydd Oakeshott y dylid dyrchafu Vince Cable i’r swydd, a bod George Osborne “ar brofiad gwaith”.
“Does gan George Osborne ddim profiad o fyd busnes,” meddai wrth raglen World at One Radio 4.
“Dyw e erioed wedi gweithio y tu allan i wleidyddiaeth. Mae’n gwneud yn dda am Ganghellor ar brofiad gwaith.
“Ond ar adeg erchyll fel hyn mae angen y bobol orau posib wrth y llyw.”
Wfftiodd Vince Cable argymhelliad yr Arglwydd Oakeshott gan ddweud fod ganddyn nhw “dim gwych” yn y Trysorlys.
“Dyw e ddim yn ymgynghorydd. Mae’n gyfaill da yr ydw i wedi ei nabod ers sawl blwyddyn, ond mae’n sylwebydd gwleidyddol annibynnol. Dydw i ddim yn cytuno ag ef.”