Johnathan Sillet
Mae teulu Jonathan Sillett wedi talu teyrnged i’r gŵr 43 oed a fu farw mewn ffrwgwd ym Mhrestatyn nos Sadwrn.

“Roedd yn ŵr teulu ffyddlon a weithiodd yn galed i ddarparu ar gyfer ei deulu a’u hamddiffyn i’r carn,” medd ei deulu.

“Mae’n gadael gwraig, Hayley, sy’n feichiog ers wyth mis, a merch bedair oed.

“Bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith ei deulu a’i ffrindiau.”

Mae’r chwe pherson lleol gafodd eu harestio ddoe ar amheuaeth o ddynladdiad wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth. Maen nhw’n cynnwys pum dyn lleol rhwng 20 a 23 oed, a merch 19 oed.

Cafodd dau berson lleol, dyn 22 oed a merch 21, eu harestio ddydd Llun ar amheuaeth o lofruddiaeth. Cafon nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth nos Lun tra bod yr heddlu’n cynnal rhagor o ymholiadau.

Dywed y Ditectif Brif Arolygydd Graham Talbot fod yr archwiliad post mortem wedi cael ei gyflawni gan batholegydd y Swyddfa Gartref ond bod y canfyddiadau wedi cael eu gohirio ar hyn o bryd, ac mae’r Crwner wedi cael ei hysbysu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar i bobol a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, neu’n ddienw drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.