Alun Davies
Mae Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer datrys yr anghydfod rhwng ffermwyr a phroseswyr llaeth.

Dywedodd y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth ddrafft a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ymyrryd â ffurf cytundebau’r sector llaeth.

Datgelwyd ddydd Llun bod ffermwyr a chynhyrchwyr llaeth wedi dod i gytundeb am y Cod Ymarfer er mwyn rheoli’r berthynas rhwng prynwyr a chyflenwyr llaeth.

Daeth y ddwy garfan i gytundeb yn dilyn cyfarfod yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, ac fe fydd manylion y cytundeb ddrafft yn cael eu trafod ymhellach dros yr haf.

Roedd Alun Davies yn bresennol yn y cyfarfod, a dywedodd ar faes y Sioe heddiw bod Llywodraeth Cymru am sicrhau bod gan y sector llaeth ddyfodol cynaliadwy yng Nghymru.

“Rydyn ni’n blaenoriaethu’r sector llaeth fel diwydiant sydd angen ein sylw a’n cefnogaeth ni,” meddai.

“Rydw i’n cydnabod bod angen i’r sector ddatrys y materion yn ymwneud â phris llaeth yn syth, ond ar yr un pryd bod angen gosod y strwythurau yn ei lle fydd yn sicrhau dyfodol tymor hir y sector.

“Mae Llywodraeth yn credu y bydd y Cod Ymddygiad yn arwain at ragor o degwch a thryloywder yn y diwydiant. Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i adolygu’r cod yn gyson.”

Opsiynau deddfwriaethol

“Serch hynny mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwerthfawrogi na fydd y Cod ar ei ben ei hun yn datrys nifer o’r materion sy’n wynebu’r gadwyn laeth, ac rydyn ni’n teimlo fod angen cryfhau’r fframwaith statudol sy’n rheoli’r farchnad,” meddai.

“Rydw i wedi gofyn i fy swyddogion edrych at yr opsiynau deddfwriaethol sydd yn agored i ni, ac fe fyddwn ni’n cyflwyno deddfwriaeth ddrafft a fydd yn caniatáu i Lywodreath Cymru ymyrryd â ffurf cytundebau’r sector llaeth.

“Yn ogystal â hynny fe fyddaf yn cynnal trafodaethau pellach o fewn y diwydiant er mwyn cryfhau safle’r ffermwyr, gan gynnwys sefydlu cyrff ffurfiol er mwyn cynhyrchu llaeth yng Nghymru.”