Mae’r tywydd yn debygol o aros yn braf i groesawu’r Gemau Olympaidd, gyda’r rhagolygon yn awgrymu y bydd hi’n aros yn sych ar gyfer y seremoni agoriadol ddydd Gwener.

Cafwyd diwrnod poetha’r flwyddyn ym Mhrydain ddoe gyda’r tymheredd yn cyrraedd 30 gradd selsiws mewn mannau.

Dylai heddiw fod yn gynhesach yn ôl arbenigwyr ar y tywydd.

Dywedodd Billy Payne, o gwmni MeteoGroup, fod siawns y bydd cawodydd o law wedi clirio erbyn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd ddydd Gwener.

“Bydd cawodydd trymion yn y prynhawn ond gobeithio y byddent wedi clirio erbyn dechrau’r seremoni,” meddai.

Mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd 24 gradd mewn mannau o Gymru heddiw, er bod perygl o gawodydd a chymylau.