Yn ôl arolwg gan gwmni teithio mae diddordeb yn y Gemau Olympaidd yn llai ymysg pobol hŷn a phobol sydd yn byw bellach oddi wrth Lundain.

Dywedodd bron i 60 y cant o bobol eu bod yn edrych ymlaen at y Gemau, a phobol ifanc oedd y mwyaf awyddus yn ôl arolwg gan gwmni Abta.

Ond dangosodd y pôl piniwn fod 45 y cant o bobol dros 55 oed ddim yn edrych ymlaen o gwbl.

Roedd 70 y cant o bobol Llundain yn edrych ymlaen at y Gemau, ond dim ond 50 y cant o Albanwyr oedd yn awyddus i’r cystadlu ddechrau.

Yn gyffredinol, roedd 7 y cant yn bwriadu mynychu’r cystadlu, 40 y cant yn edrych ymlaen at ei weld ar y teledu, a dim ond 10 y cant yn teimlo bydd y Gemau’n cael effaith bositif ar yr awyrgylch yn y wlad.

O’r rhain, dywedodd 11 y cant eu bod yn mynd ar wyliau er mwyn osgoi’r Gemau a’r dorf.

Fe holwyd 2,068 o bobol fel rhan o’r arolwg.