Mae un o bob wyth milwr wedi ymosod ar rywun ar ôl dychwelyd adref o faes y frwydr, yn ôl astudiaeth newydd.

Dangosodd y gwaith ymchwil fod cysylltiad rhwng y tramwa sy’n dod yn sgil brwydro yn y fyddin a thrais yn y cartref.

Mae’r trais yn aml iawn wedi ei anelu at rieni, gwraig neu gariad y milwyr sy’n dychwelyd o’r fyddin.

Roedd traean o’r dioddefwyr yn aelod o’r teulu.

Yn gynharach fis yma, fe garcharwyd cyn-filwr am saethu ei letywraig yn farw, misoedd yn unig ar ôl dychwelyd o gyfnod yn Afghanistan gyda’r fyddin diriogaethol.

Roedd Aaron Wilkinson, 24, yn dioddef o anhwylder pryder ôl-drawmatig.

“Rydym ni’n ymchwilio i ffyrdd i ddatblygu cefnogaeth iechyd meddwl i’n Lluoedd Arfog,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.