Peter Reeve sy'n cael ei amau o ladd plismon
Mae heddlu arfog yn chwilio am ddyn sy’n cael ei amau o ladd plismon gafodd ei saethu’n far war ôl ymyrryd mewn ffrae ger ei gartref.

Nid oedd Pc Ian Dibell, 41, ar ddyletswydd ar y pryd. Cafodd ei saethu’n farw a chafodd person arall anafiadau i’w goes ar ôl i’r dyn arfog ymosod arnyn nhw mewn stryd yn nhref glan môr Clacton yn Essex brynhawn ddoe.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau llun o’r dyn sy’n cael ei amau, Peter Reeve, 64, sy’n byw’n lleol. Mae’r heddlu wedi rhybuddio’r cyhoeddi i gadw draw o Reeve.

Dywed yr heddlu na fyddan nhw’n rhoi’r gorau i chwilio amdano nes eu bod wedi ei ddal a’i gadw yn y ddalfa.