Lesley Griffiths
Mae arbenigwr iechyd wedi gwadu honiad gan y BBC fod swyddogion Llywodraeth a byrddau iechyd wedi ymyrryd mewn adroddiad sy’n galw am newidiadau mawr yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Ond mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, eisoes wedi galw am ddatganiad yn y Cynulliad gan y Gweinidog Iechyd.

Mae newyddiadurwyr y Gorfforaeth yn dweud eu bod wedi dod ar draws e-byst yn ystod cyfnod paratoi’r adroddiad.

Gofyn am dystiolaeth

Mae’r rheiny’n dangos bod yr Athro Marcus Longley o Brifysgol Morgannwg wedi gofyn am dystiolaeth gan benaethiaid y gwasanaeth er mwyn cefnogi newid.

Maen nhw hefyd yn defnyddio’r gair “ni” ac yn awgrymu bod swyddogion hefyd wedi gofyn am gynnwys gwybodaeth.

Y disgwyl yw y bydd yr adroddiad yn arwain at newidiadau dadleuol yn y Gwasanaeth, gan gynnwys crynhoi rhai gwasanaethau a chau adrannau mewn rhai ysbytai.

‘Annibynnol’

Mae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi dweud wrth y Cynulliad bod yr adroddiad yn “annibynnol” ac mae’r Athro Longley wedi  mynnu’r un peth wrth ymateb i honiadau’r BBC.

Maen nhw’n ei ddyfynnu’n dweud bod yr adroddiad yn “ddarn cwbl annibynnol” o waith. Mae’n mynnu mai gan swyddogion Llywodraeth Cymru y mae’r rhan fwya’ o wybodaeth yr oedd ei hangen a’i fod wedi sgrifennu atyn nhw i gasglu’r wybodaeth honno.

Ond mae’r e-byst yn sôn am bethau fel “ffeithiau i gloi’r ddadl” a gwybodaeth i gefnogi’r ddadl am newid.

Ymateb y Ceidwadwyr

“Mae’r dystiolaeth yma’n drewi,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar. “Mae’n dangos bod uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a’r Athro Longley wedi cynllwynio i gynhyrchu adroddiad gyda chasgliad a oedd wedi’i benderfynu ymlaen llaw.”