Y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundain (Tagishsimon-CCA-3.0)
Bydd rhieni milwyr gafodd eu lladd yn Irac ac Afghanistan yn cymryd rhan mewn protestiadau yn erbyn y cynlluniau i dorri maint y fyddin.

Mae diwrnod o wrthdystiadau mewn dinasoedd ledled Prydain yn cael ei drefnu ar gyfer Gorffennaf 24.

Yn ogystal â phrotest wrth y Senotaff yn Llundain, mae disgwyl y bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal ger cofebau rhyfel yng Nghaerdydd, Glasgow, Leeds, Caerlŷr, Manceinion a Southampton.

Mae’r gwrthdystiadau wedi cael eu trefnu gan Dee Edwards, a ffurfiodd y grŵp Protest Against MoD Cuts mewn ymateb i’r cyhoeddiad ddydd Iau y bydd y fyddin yn cael ei thorri o 102,000 i 82,000 o bobl.

“Mae’r hyn mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wneud yn gwbl anghywir,” meddai.

“Beth sy’n digwydd i’r holl filoedd o bobl gan fyddan nhw’n colli eu gwaith – faint mwy o gyn-filwyr fydd ar y strydoedd?

“Fe fyddwn ni’n cynnal y protestiadau am 11 y bore, yr un amser ag y nodir y Cadoediad, i gofio bywydau’r holl filwyr a gollwyd ac i feddwl am bawb o’r rhai a allai farw wrth ymladd yn y dyfodol.”