Martin McGuinness
Fe fydd y Frenhines yn ymweld â Gogledd Iwerddon heddiw fel rhan o’i dathliadau Jiwbilî Ddiemwnt.

Fe fydd yr ymweliad deuddydd yn cynnwys cyfarfod hanesyddol â Martin McGuinness lle mae disgwyl i’r Frenhines ysgwyd llaw â dirprwy brif weinidog Stormont. Mae’r cyfarfod yn cael ei weld fel carreg filltir bwysig yn y broses heddwch.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Martin McGuinness bod ysgwyd llaw â’r Frenhines yn “ffordd o ddangos i’r unoliaethwyr yn y gogledd ein bod ni’n barod i barchu’r hyn maen nhw’n ei gredu ynddo, er ein bod ni’n dal i fod yn weriniaethwyr.”

Yn ystod yr ymweliad fe fydd y Frenhines a Dug Caeredin yn ymweld â Enniskillen ar gyfer gwasanaeth diolchgarwch.