MI5 yn Llundain
Mae Prydeinwyr yn teithio i’r Dwyrain Canol yn gynyddol i gael hyfforddiant mewn terfysgaeth, yn ôl pennaeth MI5.

Fe rybuddiodd Jonathan Evans, cyfarwyddwr cyffredinol y gwasanaeth diogelwch, bod nifer o Brydeinwyr yn teithio i’r gwledydd Arabaidd i hyfforddi i fod yn derfysgwyr. Dywedodd y byddai rhai yn dychwelyd i’r DU ac yn peri bygythiad.

Mae Jonathan Evans hefyd wedi dweud bod y Gemau Olympaidd yn Llundain yn darged deniadol i derfysgwyr ond bod mesurau diogelwch llym mewn lle.