Fe all llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden ddiflannu erbyn diwedd y degawd oni bai bod cynghorau yn derbyn arian ychwanegol ar frys, mae adroddiad newydd yn rhybuddio.

Fe fydd yr arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gostwng 90% wrth i’r arian gael ei wario ar wasanaethau gofal i oedolion a chyfrifoldebau statudol eraill, yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol (LGA).

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif y bydd na ddiffyg o £16.5 biliwn erbyn 2020 rhwng yr hyn sydd ar gael i gynghorau i ddarparu gwasanaethau a’r gost o’u cynnal nhw.

Daw’r adroddiad wrth i bôl piniwn YouGov ddangos mai llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yw’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd sy’n cael eu darparu gan gynghorau.

Mae’r LGA, sy’n cynrychioli 373 o gynghorau yng Nghymru a Lloegr, wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno newidiadau i’r modd mae cynghorau yn talu am ofal cymdeithasol i oedolion, a rhoi mwy o adnoddau i gynghorau.