Julian Assange
Mae disgwyl i Ecwador gyhoeddi heddiw a fyddan nhw’n rhoi noddfa wleidyddol i sylfaenydd Wikileaks, Julian Assange.
Mae Assange, 40, sy’n dod o Awstralia, wedi bod yn aros yn Llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers dydd Mawrth, lle mae’n ceisio cael noddfa wleidyddol.
Mae wedi methu yn ei ymgais i osgoi cael ei anfon nôl i Sweden er mwyn wynebu honiadau am droseddau rhyw.
Mae wedi ei gyhuddo o dreisio dynes, ac ymyrryd yn rhywiol â dynes arall yn Stockholm ym mis Awst 2010.
Mae Julian Assange yn gwadu’r cyhuddiadau.
Mae disgwyl i arlywydd Ecwador, Rafael Correa, wneud penderfyniad am gais Julian Assange yn ddiweddarach heddiw.