Mae’r Royal Bank of Scotland am gael gwared â 600 o swyddi o’i adran gwasanaethau ariannol, yn ôl undeb Unite.

Mae arweinwyr yr undeb wedi beirniadu’r banc am wneud toriadau “creulon” ac am y modd y mae’r gweithwyr wedi cael eu trin.

Dywedodd y swyddog cenedlaethol David Fleming: “Mae Unite wedi bod yn bryderus ers peth amser am y ffordd warthus mae gweithwyr y banc wedi cael eu trin. Mae’r undeb wedi mynegi pryder wrth y banc am y targedau amhosibl sydd wedi cael eu rhoi i’r gweithlu ac yn galw ar y banc i adolygu’r broses diswyddo.”

Ychwanegodd bod y banc wedi methu â chymryd i ystyriaeth ffactorau economaidd sydd wedi cael effaith ar berfformiad a thargedau, meddai.

Mae’r trethdalwr yn berchen ar 82% o’r banc.