Fe fydd miloedd o weithwyr bws yn Llundain yn mynd ar streic yr wythnos nesa’, a hynny oherwydd ffrae ynglyn â thaliadau ychwanegol y byddan nhw’n ei dderbyn yn ystod y Gemau Olympaidd.

Mae undeb Unites yn dweud y bydd y gwasanaeth bws yng nghanol y ddinas yn dod i stop, wrth i weithwyr o bob cwmni trafnidiaeth gerdded allan am y tro cynta’ ers chwarter canrif.

Mae’r streic yn digwydd oherwydd fod Unite yn galw am fonws o £500 yr un ar gyfer dros 20,000 o weithwyr a fydd yn ysgwyddo baich gwaith “anferthol” yn ystod ymweliad y Gemau Olympaidd â Llundain.  

Oni bai y byddan nhw’n cael cynnig derbyniol, fe fydd undeb Unite yn galw mwy o streiciau yn ystod y cyfnod yn arwain at, ac yn ystod, y Gemau.

Yn 1982 y cynhaliwyd y streic ddiwetha’ gan weithwyr bws Llundain.