Mae staff cwmni ceir Ford yn bwriadu cynnal streic 24-awr er mwyn tynnu sylw at ffrae ynglyn â’u cyflogau a’u pensiynau.
Mae undeb Unite, sy’n cynrychioli tua 1,200 o weithwyr coler wen yn y cwmni ceir, yn dweud y bydd staff yn cerdded allan am 6 y bore ddydd Llun nesa’ ar safleoedd y cwmni yn Dagenham, Pen-y-bont ar Ogwr, Halewood a Southampton.
Yn ôl yr undeb, mae staff yn “benwan” ynglyn â chynlluniau i ddod â chynllun pensiwn i ben ar gyfer gweithwyr newydd, a gostwng cyflogau.
“Rydyn ni’n gwrthwynebu’n chwyrn y ffordd y mae Ford yn bwriadu rhoi’r gorau i’r cynllun pensiwn presennol, oherwydd r’yn ni’n poeni y byddan nhw yn y pen draw mo’yn rhoi’r gorau i’r cynllun cyfan.
“Mae’n rhaid i Ford brofi ei fod wedi ei ymrwymo i aros yn y Deyrnas Unedig, a hynny trwy fuddsoddi yn ei staff yma. Mae ceir Ford yn gwerthu’n well yma nac yn unman arall yn Ewrop, felly does dim esgus pam maen nhw’n ymosod ar amodau gwaith cenhedlaeth newydd o weithwyr Ford.”
Dydi’r streic ddim yn effeithio gweithwyr llawr y ffatri na’r lein gynhyrchu.