Mae Sly Bailey, Prif Weithredwr gyda Trinity Mirror, wedi gadael ei swydd chwe mis ynghynt na’r disgwyl.

Fe gyhoeddodd y cwmni, sy’n gyfrifol am bapurau newydd The Daily Mirrorr a’r Sunday Mirror, y byddai ms Bailey yn camu o’r neilltu’n syth bin, a bod y gwaith o chwilio am rywun i gymryd ei lle eisoes wedi dechrau.

Mae’r symudiad hwn yn digwydd yn fuan wedi i David Grigson ddod yn Gadeirydd y cwmni ar Fai 29 eleni a chymryd drosodd gan Syr Ian Gibson.

“Mae’r cwmni a’r bwrdd yn ddiolchgar iawn i Sly am ei chyfraniad enfawr a’i harweiniad am bron i ddeng mlynedd,” meddai David Grigson.

“Er gwaetha’r dirwasgiad economaidd, mae’r pethau wnaeth Sly a’r ffordd yr arweiniodd ei thim trwy’r cyfan, yn golygu fod y cwmni wedi gwneud elw da yn gyson. Rydan ni’n dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol.”

Wrth adael ei swydd, dywedodd Sly Bailey ei bod wedi bod yn “anrhydedd” arwain Trinity Mirror ym myd busnes. Mae pob peth y mae hi wedi ei wireddu, meddai wedyn, yn deyrnged i “waith caled, ymrwymiad a brwydfrydedd” y staff.