Y Dalai Lama
Mae’r Dalai Lama wedi wfftio bygythiadau gan China y byddan nhw’n tynnu eu hathletwyr allan o wersyll hyfforddi oherwydd araith y bydd ef yn ei rhoi. Mae’r math yma o ymateb bellach “bron yn ddisgwyliedig”, meddai.

Roedd yr arweinydd ysbrydol o Tibet yn ymateb yn ystod lansiad ei ymweliad deg diwrnod â gwledydd Prydain, pryd y bydd yn gobeithio trosglwyddo neges ddi-drais o ddeialog a chyfrifoldeb rhyngwladol.

Ond roedd swyddogion ar ran tim Olympaidd China wedi gofyn i Gyngor Dinas Leeds i roi pwysau ar drefnwyr y daith i ganslo ymweliad y Dalai Lama â Chynhadledd Fusnes Swydd Efrog.

Ers mis Awst y llynedd, roedd swyddogion tim Olympaidd China wedi dewis Leeds fel eu gwersyll paratoi cyn gemau Llundain. Fe fydd tua 300 o athletwyr, hyfforddwyr a staff cefnogi yn treulio cyfnod yn Leeds er mwyn dod i arfer â’r hinsawdd Prydeinig.

Mae taith y Dalai Lama, sy’n 76 mlwydd oed, yn cynnwys ymddangosiad gyda’r comediwr, Russell Brand, mewn gwyl i bobol ifanc ym Manceinion fory.