Mae diffyg ariannol y Deyrnas Unedig wedi cynyddu i’w lefel ucha’ mewn bron i saith mlynedd, yn ôl ffigyrau swyddogol sydd wedi’u cyhoeddi heddiw. Y gostyngiad mewn allforion i Ewrop sy’n cael y bai.

Roedd y gwahaniaeth rhwng faint o nwyddau sy’n cael eu mewnforio a’u hallforio wedi codi o £3bn i £4.4bn ym mis Mawrth eleni, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS).

Roedd allforion wedi gostwng o 8.6%, yn cynnwys gostyngiad o 6.8% yn yr allforion i’r Undeb Ewropeaidd, partner masnach mwya’r Deyrnas Unedig, wrth i ddyledion y rhanbarth hwnnw achosi anrhefn mewn nifer o wledydd.

“Gyda’r diffyg ariannol yn cynyddu, a’r nifer o swyddi sy’n cael eu creu gan y diwydiant adeiladu yn crebachu, mae’r gobaith o weld yr economi’n tyfu yn diflannu,” meddai Howard Archer, prif economegydd Ewrop a’r Deyrnas Unedig ar gyfer cwmni IHS Global Insight.