Dafydd Iwan
Mae Dafydd Iwan wedi galw – a’i dafod yn ei foch – am sefydlu cystadleuaeth ddwyieithog rhwng pobol ifanc Cymru a Lloegr, lle y byddai’n rhaid cystadlu trwy gyfrwng y Saesneg ac un iaith arall. Mae’n hyderus y byddai ieuenctid Cymru’n gwneud cyfri’ da iawn ohonyn nhw’u hunain.
Mewn llythyr ym mhapur wythnosol y Caernarfon & Denbigh yn canmol talent y bobol ifanc welwyd ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd Eryri mharc Glynllifon yr wythnos ddiwetha’, mae’r canwr, y cyn-gynghorydd a chyn-Lywydd Plaid Cymru yn cynnig y gellid sefydlu cystadleuaeth, a’i dangos hi ar deledu Prydain.
“Yn wir, gan fod cystadlaethau’n bethau ffasiynol iawn ar deledu ar hyn o bryd, pam ddim cael cystadleuaeth rhwng corau ysgolion Cymru a Lloegr, yr unawdwyr gorau, yr actorion, sioeau cerdd pobol ifanc, offerynwyr, dawnswyr, beirdd a llenorion?” meddai Dafydd Iwan.
“Ac i goroni’r cyfan, beth am fynd ben-ben ar gyflwyniad dramatig yn Saesneg ac un iaith arall? Dw i’n credu y byddai Cymru’n rhoi cyfri’ da iawn ohoni ei hun.”
Nid y cystadlu sy’n bwysig
“Ond y peth gwych am yr Urdd ydi mai nid creu sêr ydi’r pwynt,” meddai Dafydd Iwan ar ddiwedd ei lythyr i’r papur. “Nid yr arian a’r enwogrwydd sy’n bwysig.
“Holl bwynt yr Urdd ydi dathlu – ar y lefel uchaf un – diwylliant byw a chreadigol. Ac mae’n ymwneud â iaith Gymraeg sy’n fyw o hyd. Diolch yn fawr, ieuenctid Cymru.”