Mae’n rhaid taclo “problemau sylfaenol” anllythrennedd ymysg pobol ifanc, er mwyn mynd i’r afael â diwylliant y gang ym mhrifddinas Lloegr, yn ôl y Maer, Boris Johnson.

Mae’n rhaid i addysg a chyfleoedd gwaith i bobol ifanc fod yn ganolog i unrhyw ymgyrch yn erbyn troseddau yn ymwneud â gangiau, meddai wedyn ar raglen Today, Radio 4, heddiw.

“Beth sydd angen ei wneud yw taclo problemau sylfaenol y plant hyn, ac mae nifer ohonyn nhw, a bod yn onest, yn anllythrennog yn 11 oed… a dyna pam ein bod ni’n gyrru’r ymgyrch ddiweddara’ hon yn erbyn anllythrennedd yn Llundain.

“Mae addysg yn Llundain wedi gwella’n fawr, fel mae’n digwydd, dros y deg i bymtheg mlynedd diwetha’,” meddai Boris Johnson. “Ond mae yna ffordd bell i fynd.”

Mynnodd fod lefelau llofruddiaeth a throsedd yn y ddinas yn gostwng, ond fod angen “cyfres o ymyrraeth” ar bob haen o gymdeithas, a heddlua cryf.

“Mae’r troseddu sydd yn digwydd yn Llundain yn gysylltiedig â gangiau ac aelodaeth o gangiau,” meddai Boris Johnson, “ac rwy’n meddwl ei bod hi’n iawn i’r heddlu fod yn galed wrth ymdrin â hyn.”