Jo Yeates
Cafodd angladd Jo Yeates ei gynnal heddiw yn y pentref lle y cafodd ei magu.
Cynhaliwyd angladd y pensaer tirwedd 25 oed yn Eglwys St Mark’s yn Ampfield, Hampshire, bron i ddeufis ar ôl iddi ddiflannu.
Roedd y teulu wedi dewis yr eglwys am mai dyma ble y cafodd Jo Yeates ei bedyddio.
Gadawyd dros 50 o deyrngedau y tu allan i’r eglwys, gan gynnwys rhai gan ei chyflogwr a Heddlu Gwlad yr Haf ac Avon.
Ar ôl gwasanaeth tua 30 munud o hyd cafodd arch Jo Yeates ei chario allan o’r eglwys, â’i mam a’i thad a tua 30 o deulu a ffrindiau yn dilyn.
Roedd tua 300 o bobol y gwasanaeth i gyd, oedd dan ofal y Parchedig Peter Gilks.
Fe ddywedodd y Parchedig Peter Gilks yn ddiweddarach bod y gwasanaeth yn un “tawel a myfyriol”.
“Roedd naws tawel iawn i’r gwasanaeth. Roedd pobl yno i alaru a chynnig cefnogaeth i’r teulu.
“Doedd y teulu ddim am ddathlu ei bywyd. Roedden nhw’n teimlo ei fod yn rhy gynnar i wneud hynny.”
Diflannodd Jo Yeates ar 17 Rhagfyr, ac fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff ar Ddydd Nadolig, tair milltir o’i chartref.
Mae ei chymydog, Vincent Tabak, wedi ei gyhuddo o lofruddio’r pensaer ac fe fydd yn wynebu achos llys yn yr hydref.