Roedd Jamie Bevan o flaen y llys yr wythnos hon am brotest hawliau
Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn dechrau ymgyrch am ddeddf iaith newydd arall ar ôl etholiadau’r Cynulliad.

Wrth i’r Ddeddf ddiweddara’ ddod i rym yn swyddogol, fe ddywedodd Cadeirydd y Gymdeithas y bydden nhw’n galw am fynd gam ymhellach.

Yn ôl Bethan Williams, mae “egwyddor graidd” ar goll o’r Ddeddf newydd, sef rhoi hawl i bobol Cymru ddefnyddio’r Gymraeg “ym mhob agwedd o fywyd”.

“Ein bwriad yw galw am ddeddfwriaeth newydd yn y Cynulliad nesaf, a fydd yn sicrhau hawliau i bobol weld, clywed, dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau, ledled Cymru,” meddai.

Roedd bron draean o ACau wedi cefnogi cynnig o’r fath yn ystod taith y Ddeddf trwy’r Cynulliad ym mis Rhagfyr.